Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024

Amser: 09.00 - 10.03
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Lesley Griffiths AS

Darren Millar AS

Heledd Fychan AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau,

Llinos Madeley, Clerc, Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd

James Attridge, Uwch-reolwr  Diogelwch

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·         Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·         Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU (60 munud) Aildrefnwyd

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) (15 munud) Aildrefnwyd

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc (30 munud) Gohiriwyd

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Mis Hanes LHDTC+ Cynllun Gweithredu (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud) Gohiriwyd tan 12 Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm

 

Dydd Mercher

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes wybodaeth friffio ar drefniadau diogelwch yn ymwneud â'r brotest a ddisgwylir ddydd Mercher a'r amharu posibl, gan gynnwys teithio. Cofrestrodd y Trefnydd a Jane Dodds eu pryder bod busnes a digwyddiadau'r Senedd yn parhau wyneb yn wyneb o ystyried maint y brotest a ddisgwylir a chodwyd y posibilrwydd o gadw presenoldeb ar Ystad y Senedd ar ei isafswm, a thrafodion yn cael eu cynnal ar-lein pe bai angen. 

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 12 Mawrth 2024

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)

·         Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5 munud)

·         Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (5 munud)

·         Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru) (5 munud)

·         Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 (30 munud) gohiriwyd tan 13 Mawrth

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024

 

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) gohiriwyd tan 20 Mawrth 2024

·         Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) - wedi dwyn ymlaen o 20 Mawrth 2024

·         Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24 (30 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 20 Mawrth i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg i 13 Mawrth.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: 

 

Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud) Symudwyd i 12 Mawrth

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024 –

 

 

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ar gyfer Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Trafododd y Pwyllgor Busnes amserlen y Bil a gynigiwyd gan y Llywodraeth a chytunodd:

 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Amserlenni Cyflym ar gyfer Biliau’r Senedd

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar amserlenni cyflym ar gyfer Biliau'r Senedd. Nododd y Pwyllgor brofiad y ddau Fil a amlinellwyd yn y papur a gofynnodd i swyddogion ddrafftio offeryn gwneud penderfyniadau y gellid ei ddefnyddio i'w gynorthwyo i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar amserlenni Biliau pan fydd amserlen gyflym wedi’i chynnig.

 

Gofynnodd Darren Millar i ystyried faint o amser sydd ar gael i'r Aelodau i baratoi ar gyfer trafodion Cyfnod 2 a Chyfnod 3 ar Filiau yn dilyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno gwelliannau. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion ddarparu nodyn am y materion hyn, i gynnwys profiad diweddar yn ymwneud â’r Bil Seilwaith (Cymru).

 

</AI9>

<AI10>

4.3   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Rhentwyr (Diwygio)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i ddiwygio'r terfyn amser i bwyllgorau adrodd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) i 26 Ebrill 2024.

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gofyn am ganiatâd i gynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor

Cytunodd y Pwyllgor Busnes â’r cais i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 14 Mawrth 2024.

 

</AI12>

<AI13>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI13>

<AI14>

6.1   Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor: Cynigion Manwl

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried a ddylai fwrw ymlaen â thrafod Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor cyn toriad y Pasg, a swyddi gwag posibl cadeiryddion pwyllgorau a allai godi yn sgil y Prif Weinidog newydd yn penodi ei lywodraeth. Cytunodd mwyafrif ar y Pwyllgor Busnes bod angen cyfnod hwy o amser i roi ystyriaeth lawn i'r materion perthnasol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i fwrw ymlaen â'r drafodaeth fanwl honno dros y misoedd nesaf, gan gydnabod na fyddai unrhyw newidiadau ar waith erbyn i unrhyw swydd wag godi yn dilyn toriad y Pasg.

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>